John 11:51 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hyn a ddyvod ef nyd o hano yhun: eithyr can y vot yn Archoffeiriat y vlwyddyn hono y prophwytawdd ef y byddei ’r Iesu varw tros y genetl:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hyn, nid o hono ei hun y’i dywedodd; eithr ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, prophwydodd fod yr Iesu ar fedr marw dros y genedl;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond nid ohono’i hun y dywedodd ef hyn, ond ag yntau’n brif offeiriad y flwyddyn honno, proffwydodd y byddai i Iesu farw dros y genedl,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun: eithr, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, efe a broffwydodd y byddai'r Iesu farw dros y genedl;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Doedd e ddim yn dweud hyn ohono'i hun. Beth ddigwyddodd oedd ei fod e, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, wedi proffwydo y byddai Iesu'n marw dros y genedl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ohono'i hun y dywedodd hyn, ond proffwydo yr oedd, ac yntau'n archoffeiriad y flwyddyn honno, fod Iesu'n mynd i farw dros y genedl,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hyn ni ddywedodd efe o hono ei hun; eithr ac efe yn Arch‐offeiriad y flwyddyn hono, efe a broffwydodd fod yr Iesu ar farw dros y genedl: