John 11:54 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Iesu gan hyny ny rodiawdd mwy ach yn gyoeddus ym‐plith yr Iudd æ on, eithyr mynet o ddyno y wlat ysy dd yn agos i’r diffaith vvch, y ddinas a elwir Ephraim, ac aros yno y gyd au’ ddiscipulon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr Iesu, gan hyny, ni rodiodd mwy yn amlwg ymhlith yr Iwddewon, eithr aeth ymaith oddiyno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas Ephraim, fel y’i gelwir, ac yno yr arhosodd ynghyda’r disgyblion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny ni rodiai’r Iesu’n agored mwy ymhlith pobl Iwdea, ond aeth ymaith oddiyno i’r wlad yn ymyl yr anialwch i ddinas a elwir Effraim, ac yno yr arhosodd gyda’i ddisgyblion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon; ond efe a aeth oddi yno i'r wlad yn agos i'r anialwch, i ddinas a elwir Effraim, ac a arhosodd yno gyda'i ddisgyblion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly doedd Iesu ddim yn mynd o gwmpas yn gyhoeddus ymhlith pobl Jwdea wedi hynny. Gadawodd yr ardal a mynd i bentref o'r enw Effraim oedd wrth ymyl yr anialwch. Buodd yn aros yno gyda'i ddisgyblion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, peidiodd Iesu mwyach mynd oddi amgylch yn agored ymhlith yr Iddewon. Aeth i ffwrdd oddi yno i'r wlad sydd yn ymyl yr anialwch, i dref a elwir Effraim, ac arhosodd yno gyda'i ddisgyblion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny ni rodia mwy yn hyf yn mysg yr Iuddewon; ond efe a aeth oddi yno i'r wlad yn agos i'r Anialwch, i ddinas a elwir Ephraim, ac yno yr arosodd gyd â y Dysgyblion.