John 11:57 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e roesei ’r Archoffeirieit a’r Pharisaiait hefyt ’orchymyn, a’s gwyðiat neb p’le ydd oedd ef ar ddangos o hanaw, val y gallent y ddal h a ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai na ddaw Efe ddim i’r wyl? A rhoddasai yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid orchymynion, os byddai neb yn gwybod pa le y mae, ar fynegi o hono fel y dalient Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd y prif offeiriaid a’r Phariseaid wedi rhoddi gorchmynion os gwyddai rhywun lle yr oedd, i hysbysu hynny, er mwyn iddynt ei ddal.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r archoffeiriaid a'r Phariseaid a roesant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi ohono, fel y gallent ei ddal ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Roedd y prif offeiriaid a'r Phariseaid wedi gorchymyn fod unrhyw un oedd yn gwybod lle roedd Iesu i ddweud wrthyn nhw, er mwyn iddo gael ei arestio.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac er mwyn iddynt ei ddal, yr oedd y prif offeiriaid a'r Phariseaid wedi rhoi gorchmynion, os oedd rhywun yn gwybod lle'r oedd ef, ei fod i'w hysbysu hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid oeddynt wedi rhoddi gorchymynion, fel os deuai neb i wybod pa le y mae efe, y rhoddai hysbysrwydd, fel y gallent ei ddal ef.