John 11:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y discipulon a ddywed e sont wrthaw. Athro, yn hwyr y ceisiawdd yr Iuddaeon dy lapyddiaw di, ac a ai di yno drachefyn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd Wrtho a wnaeth y disgyblion, Rabbi, yn awr ceisio Dy labyddio yr oedd yr Iwddewon, ac a âi drachefn yno?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Rabbi, gynneu yr oedd pobl Iwdea yn ceisio dy labyddio, ac a wyt ti’n myned yn ôl yno?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y disgyblion a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond Rabbi,” medden nhw, “roedd yr arweinwyr Iddewig yn Jwdea yn ceisio dy ladd gynnau! Wyt ti wir am fynd yn ôl yno?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Rabbi," meddai'r disgyblion wrtho, "gynnau yr oedd yr Iddewon yn ceisio dy labyddio. Sut y gelli fynd yn l yno?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae y Dysgyblion yn dywedyd wrtho, Rabbi, yr awrhon yr oedd yr Iuddewon yn ceisio dy labyddio di, ac a wyt ti yn myned yn ol yno drachefn?