John 11:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a atebawdd, Any d oes deuddec awr o ddydd? A’s rodia nep y dydd, ny thancwydda ef, can ydd‐aw wel e d goleuni y y byt hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd yr Iesu, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? Os rhodia neb y dydd, ni thripia, gan mai goleuni’r byd hwn a wel efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iesu: “Onid oes deuddeg awr yn y dydd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o'r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni'r byd hwn:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Onid oes deuddeg awr o olau dydd? Dydy'r rhai sy'n cerdded yn ystod y dydd ddim yn baglu, am fod ganddyn nhw olau'r haul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu: "Onid oes deuddeg awr mewn diwrnod? Os yw rhywun yn cerdded yng ngolau dydd, nid yw'n baglu, oherwydd y mae'n gweld golau'r byd hwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr yn y dydd? Os rhodia neb yn y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni y byd hwn.