John 12:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YNo yr Iesu chwe ch dier not cyn y Pasc a ddaeth i Bethania, lle yr oeð Lazar us, y vesei varw, ’rhwn a godesei ef o vairw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr Iesu, gan hyny, chwe diwrnod o flaen y Pasg, a ddaeth i Bethania, lle’r oedd Lazarus, yr hwn a godasai yr Iesu o feirw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth yr Iesu i Fethania, lle yr oedd Lasarus a gyfodasai Iesu o feirw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Fethania, lle yr oedd Lasarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Chwe diwrnod cyn Gŵyl y Pasg cyrhaeddodd Iesu Bethania, lle roedd Lasarus yn byw (y dyn ddaeth Iesu ag e yn ôl yn fyw.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth Iesu i Fethania, lle'r oedd Lasarus yn byw, y dyn yr oedd wedi ei godi oddi wrth y meirw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny, chwe diwrnod cyn y Pasc, a ddaeth i Bethania, lle yr oedd Lazarus,, yr hwn a gyfododd yr Iesu o feirw.