John 12:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a gymer e sont geinciae o’r palmwydd, ac aethant ymaith y gyfwrdd ac ef, ac a lefesont, Hosanna, Bendiged ic yvv ’r Brenhin yr Israel yr hwn ’sy yn dyvot yn Enw yr Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gymmerasant gangau y palmwydd, ac aethant allan i gyfarfod ag Ef, a bloeddient, Hoshanna bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd a Brenhin Israel.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gaersalem, cymerth y dyrfa fawr, a oedd wedi dyfod i’r ŵyl, gangau’r palmwydd, ac aethant allan i gyfarfod ag ef, a gweiddi: “Hosanna, Bendigedig yr hwn sy’n dyfod yn enw yr Arglwydd,a brenin yr Israel.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gymerasant gangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n torri canghennau o'r coed palmwydd a mynd allan i'w gyfarfod gan weiddi, “Clod iddo!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerasant ganghennau o'r palmwydd ac aethant allan i'w gyfarfod, gan weiddi: "Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a gymmerasant y cangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg ef, ac a lefasant yn uchel, gan ddywedyd, Hosanna! Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Ie, Brenin Israel!.