John 12:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a gafas asennic, ac a eisteddawdd arnaw, megis y mae yn escrivenedic,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu, wedi cael asynyn, a eisteddodd arno, fel y mae yn ysgrifenedig,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chafodd yr Iesu asyn bach, ac eisteddodd arno fel y mae’r adnod:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu wedi cael asynnyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cafodd Iesu hyd i asyn ifanc ac eistedd arno, fel y mae'n ysgrifenedig:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu wedi cael ebol asyn a eisteddodd arno, fel y mae yn ysgrifenedig, —