John 12:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny ðyallei ey ddiscipulon y pethe hyn y waith gyntaf: eithyr wedy gogoneddu yr Iesu, yno y cofiesont vvy, pan yvv bot y pethe hyn yn escrivenedic o honaw, a’ daruot yddynt wneuthur y petheu hyn yddaw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y pethau hyn ni wybu Ei ddisgyblion ar y cyntaf; eithr pan ogoneddasid yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am Dano, ac mai y pethau hyn a wnaethant Iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni ddeallodd ei ddisgyblion ef hyn ar y cyntaf, ond pan ogoneddwyd Iesu, yna cofiasant fod hyn wedi ei ysgrifennu amdano, a’u bod wedi gwneuthur hyn iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt wneuthur hyn iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Doedd y disgyblion ddim wedi deall arwyddocâd hyn i gyd ar y pryd. Dim ond ar ôl i Iesu gael ei anrhydeddu wnaethon nhw sylweddoli fod y pethau yma wedi eu hysgrifennu amdano, a'u bod nhw wedi digwydd iddo.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y cyntaf ni ddeallodd y disgyblion ystyr y pethau hyn, ond wedi i Iesu gael ei ogoneddu, cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt eu gwneud iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y pethau hyn ni wybu ei Ddysgyblion ef ar y cyntaf; eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am dano, ac iddynt wneuthur y pethau hyn iddo.