John 12:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y dyrva gan hyny rhon oedd y gyd ac ef, a destolaethawdd ’alw o hanaw ef Lazar us allan o’r bedd, ac yddo y gody ef o vairw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tystiolaethu, gan hyny, yr oedd y dyrfa, yr hon oedd gydag Ef pan alwodd Efe Lazarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly tystiai’r dyrfa a oedd gydag ef pan alwodd ef Lasarus o’r bedd a’i gyfodi o feirw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o'r bedd, a'i godi ef o feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd llawer iawn o'r bobl yn y dyrfa wedi gweld Iesu'n galw Lasarus allan o'r bedd a dod ag e yn ôl yn fyw, ac roedden nhw wedi bod yn dweud wrth bawb arall beth ddigwyddodd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y dyrfa, a oedd gydag ef pan alwodd Lasarus o'r bedd a'i godi o blith y meirw, yn tystiolaethu am hynny.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny yr oedd y dyrfa, yr hon oedd gyd âg ef pan alwodd efe Lazarus allan o'r bedd, ac y cyfododd ef o feirw, yn dwyn tystiolaeth.