John 12:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wy wnaethēt y‐ddaw yno swper, a’ Martha oedd yn gwasanaethu: a’ Lazar us oedd vn or ei a eisteddent i vwyta y gyd ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwnaethant, gan hyny, Iddo swpper yno, a Martha a wasanaethai, ond Lazarus oedd un o’r rhai yn lled-orwedd ynghydag Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny gwnaethant swper iddo yno, ac yr oedd Martha yn gweini, ac yr oedd Lasarus yn un o’r rhai a oedd wrth y bwrdd gydag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yno y gwnaethant iddo swper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lasarus oedd un o'r rhai a eisteddent gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd swper wedi ei drefnu i anrhydeddu Iesu. Roedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd yn eistedd gydag Iesu wrth y bwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yno gwnaethpwyd iddo swper; yr oedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd gydag ef wrth y bwrdd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwy a wnaethant gan hyny swper iddo yno: a Martha oedd yn gwasanaethu; ond Lazarus oedd un o'r rhai a eisteddent wrth y bwrdd gyd âg ef.