John 12:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy ddaethant at Philip, yr hwn oeð o Bethsaida yn‐Galilaia, ac a ddeisyf esont arnaw, gan ddywedyt, Arglwydd, ni a wyllysem ’weled yr Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y rhai hyn, gan hyny, a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Bethtsaida, a gofynasant iddo, gan ddywedyd, Syr, ewyllysiem weled yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Daeth y rhain at Phylip a oedd o Fethsaida yng Ngalilea, a gofynasant iddo gan ddywedyd: “Syr, yr ydym yn dymuno gweled yr Iesu.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n mynd at Philip (oedd yn dod o Bethsaida, Galilea), a gofyn iddo, “Syr, dŷn ni eisiau gweld Iesu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y rhain at Philip, a oedd o Bethsaida yng Ngalilea, a gofyn iddo, "Syr, fe hoffem weld Iesu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y rhai hyn gan hyny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Bethsaida yn Galilea, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.