John 12:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Philip a ddaeth ac a ðyvot i Andreas: a’ thrachefyn Andreas a’ Philip a ddywed e sont i’r Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Daeth Philip a dywedodd wrth Andreas. Daeth Andreas a Philip, a dywedasant wrth yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae Phylip yn dyfod ac yn dywedyd wrth Andreas; daw Andreas a Phylip a dywedyd wrth yr Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i'r Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Philip i ddweud wrth Andreas, ac wedyn aeth y ddau ohonyn nhw i ddweud wrth Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Philip i ddweud wrth Andreas; ac aeth Andreas a Philip i ddweud wrth Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae Philip yn dyfod, ac yn dywedyd i Andreas: y mae Andreas yn dyfod a Philip, ac y maent yn dywedyd i'r Iesu.