John 12:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn wir, yn wir y dywedaf y‐chwy. A ny syrth y gronyn gwenith ir ddaiar a’ marw, ef a aros yn vnic, eithyr a’ s bydd marw, e ðwc ffrwyth lawer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Oni bydd i’r gronyn gwenith, ar ol syrthio i’r ddaear, farw, efe a erys yn unig; ond os bydd marw, llawer o ffrwyth a ddwg efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar fy ngwir, meddaf i chwi, oni syrth y gronyn ŷd i’r ddaear a marw, fe erys hwnnw’n unig. Ond os bydd marw, y mae’n dwyn ffrwyth lawer.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Credwch chi fi, bydd hedyn o wenith yn aros fel y mae, yn ddim ond un hedyn bach, os fydd e ddim yn disgyn ar y ddaear a marw. Ond os bydd yn marw, bydd yn troi yn gnwd o hadau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os nad yw'r gronyn gwenith yn syrthio i'r ddaear ac yn marw, y mae'n aros ar ei ben ei hun; ond os yw'n marw, y mae'n dwyn llawer o ffrwyth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, y mae yn aros ei hun yn unig: eithr os bydd efe marw, y mae yn dwyn ffrwyth lawer.