John 12:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn a gar o eu einioes, ei cyll, a’ hwn a gasa o ei einioes yn y byt hwn, ei caidw i vywyt tragyvythawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sy’n casau ei einioes yn y byd hwn, i fywyd tragywyddol y’i ceidw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn sy’n caru ei enaid ei hun, fe’i cyll ef, a’r hwn sy’n cashau ei enaid yn y byd hwn, fe’i ceidw i fywyd tragwyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a'i cyll hi; a'r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn, a'i ceidw hi i fywyd tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y sawl sy'n meddwl am neb ond ei hun yn colli ei fywyd, tra bydd y sawl sy'n rhoi ei hun yn olaf yn y byd hwn yn cael bywyd tragwyddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r sawl sy'n caru ei einioes yn ei cholli; a'r sawl sy'n casu ei einioes yn y byd hwn, bydd yn ei chadw i fywyd tragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn caru ei fywyd sydd yn ei golli; a'r hwn sydd yn cashâu ei fywyd yn y byd hwn a'i dyogela i fywyd tragywyddol.