John 12:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s gwasanaetha nep vi, dylynet vi: can ys lle y b wy vi, yno hefyt y bydd vy‐gwas: ac a’ s gwasauaetha neb vi, vy‐Tat y anrydeða ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os Myfi a wasanaetha neb, ar Fy ol I deued; a lle yr wyf Fi, yno y bydd Fy ngweinidog hefyd. Os bydd neb yn Fy ngwasanaethu I, ei anrhydeddu ef a wna’r Tad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi, a lle yr wyf i, yno y bydd fy ngwasanaethwr hefyd. Os gwasanaetha neb fi, anrhydedda’r tad ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a'i hanrhydedda ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os dych chi am fy ngwasanaethu i rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â mi. Byddwch chi'n cael eich hun yn yr un sefyllfa a fi. Y rhai sy'n fy ngwasanaethu i fydd Duw, fy Nhad, yn eu hanrhydeddu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw rhywun am fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i; lle bynnag yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwasanaethwr. Os yw rhywun yn fy ngwasanaethu i, fe gaiff ei anrhydeddu gan y Tad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os gwasanaetha neb myfi, dylyned fi: a lle yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwas i; os gwasanaetha neb fi, y Tâd a'i anrhydedda ef.