John 12:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr owrhon y cynhyrfir vy enait: a’ pha beth ddywedaf? Y Tat, cadw vi rhac yr awr hon: eithyr o bleit hyn y daethym’ i’r awr hon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn awr Fy enaid a gynhyrfwyd: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared Fi allan o’r awr hon. Eithr oherwydd hyn y daethum i’r awr hon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn awr y mae f’enaid wedi ei gynhyrfu, a beth a ddywedaf? Dad, gwared fi o’r awr hon, ond er mwyn hyn y deuthum i’r awr hon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o'r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i'r awr hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ar hyn o bryd dw i wedi cynhyrfu. Beth alla i ddweud? O Dad, achub fi rhag y profiad ofnadwy sydd i ddod? Na! dyma pam dw i wedi dod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn awr y mae fy enaid mewn cynnwrf. Beth a ddywedaf? 'O Dad, gwared fi rhag yr awr hon'? Na, i'r diben hwn y deuthum i'r awr hon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr y mae fy enaid wedi ei gynhyrfu: a pha beth a ddywedaf? O Dâd, gwared fi allan o'r Awr hon: eithr er mwyn hyn y daethum i'r Awr hon: