John 12:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y popul oedd yn gor sefyll, ac yn yn clywet, a ddyvot mai taran yt oedd hi: yr‐eill a ddywedent, Angel a lavarawdd wrthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y dyrfa, gan hyny, yr hon oedd yn sefyll ac a glywodd a ddywedodd mai taran fu; eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd Wrtho.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly dywedodd y dyrfa, a oedd yn sefyll ac yn clywed, ei bod wedi taranu. Meddai eraill: “Angel a siaradodd wrtho.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd rhai o'r bobl oedd yno yn meddwl mai sŵn taran oedd, ac eraill yn dweud “Na, angel oedd yn siarad ag e!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd y dyrfa oedd yn sefyll gerllaw, dechreusant ddweud mai taran oedd; dywedodd eraill, "Angel sydd wedi llefaru wrtho."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y dyrfa gan hyny, yr hon oedd yn sefyll, ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd; eraill a ddywedasant, Angel sydd wedi llefaru wrtho.