John 12:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cymerth Mair bunt o irait o spicnard tra gwerthvawr, ac a irawdd draet yr Iesu, ac a sychawdd ei draet ai gwallt, a’r tuy a lanwyt o arogl yr irait.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Mair, gan hyny, wedi cymmeryd pwys o ennaint nard gwlyb tra-chostus, a enneiniodd draed yr Iesu, ac â gwallt ei phen y sychodd Ei draed; a’r tŷ a lanwyd ag arogl yr ennaint.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chymerth Mair bwys o ennaint nard pur costus, ac eneiniodd draed yr Iesu, a sychodd ei draed ef â’i gwallt. A llanwyd y tŷ ag aroglau’r ennaint,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt: a'r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth Mair i mewn gyda jar hanner litr o nard pur, oedd yn bersawr drud iawn. Tywalltodd y persawr ar draed Iesu ac wedyn sychu ei draed gyda'i gwallt. Roedd arogl y persawr i'w glywed drwy'r tŷ i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chymerodd Mair fesur o ennaint costfawr, nard pur, ac eneiniodd draed Iesu a'u sychu 'i gwallt. A llanwyd y tu375? gan bersawr yr ennaint.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mair gan hyny gymmerodd bwys o enaint o nard pur gwerthfawr, ac a eneinoedd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt: a'r tŷ a lanwyd o arogl yr enaint.