John 12:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y popul eu atepoð, Ni ni a glywsam o’r Ddeð y f, yr aros y Christ yn tragyvythol: a’ pha voð y dywedy di, vot yn ðir derchavel y Map y dyn y vynyð? pwy ’n yw’r Map y dyn hwnw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Atteb, gan hyny, Iddo a wnaeth y dyrfa, Nyni a glywsom o’r Gyfraith fod Crist yn aros yn dragywydd: a pha fodd yr wyt Ti yn dywedyd, Rhaid dyrchafu Mab y Dyn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly atebodd y dyrfa iddo: “Clywsom ni o’r gyfraith fod yr Eneiniog yn aros yn dragywydd, a sut yr wyt ti yn dywedyd bod yn rhaid i fab y dyn gael ei ddyrchafu? Pwy ydyw’r ‘mab y dyn’ hwn?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dyrfa a atebodd iddo, Ni a glywsom o'r ddeddf, fod Crist yn aros yn dragwyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia yn mynd i aros am byth,” meddai'r dyrfa wrtho, “felly am beth wyt ti'n sôn pan wyt ti'n dweud fod rhaid i Fab y Dyn farw? Pwy ydy'r ‛Mab y Dyn‛ yma rwyt ti'n sôn amdano?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna atebodd y dyrfa ef: "Yr ydym ni wedi dysgu o'r Gyfraith fod y Meseia i aros am byth. Sut yr wyt ti'n dweud, felly, bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu? Pwy yw'r Mab y Dyn yma?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y dyrfa gan hyny a atebodd iddo, Ni a glywsom allan o'r Gyfraith fod y Crist yn aros yn dragywydd: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd fod yn rhaid dyrchafu Mab y Dyn? Pwy yw y Mab y Dyn hwn?