John 12:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot yr Iesu wrthynt, Eto ychydic enhyt y mae’r goleuni y gyd a chwi: rodiwch tra vo y chwy ’oleuni, rac dyvot y tywyllwc h ar eich gwartha; can ys hvvn a rodia yn y tywyllwc h, ny wyr i b’le ydd a.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pwy yw’r Mab y Dyn hwn? Dywedyd, gan hyny, iddynt a wnaeth yr Iesu, Etto ychydig ennyd y mae’r goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra y mae’r goleuni genych, rhag i dywyllwch eich goddiweddyd: a’r hwn sy’n rhodio yn y tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae yn myned.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddai’r Iesu wrthynt felly: “Ychydig amser eto y mae’r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fo’r goleuni gennych, rhag i’r tywyllwch eich gorddiwes: ac ni ŵyr yr hwn sy’n rhodio yn y tywyllwch i ba le y mae’n myned.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ennyd y mae'r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio'r tywyllwch chwi: a'r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae'n myned.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Bydd y golau gyda chi am ychydig mwy. Cerddwch yn y golau tra mae gyda chi, rhag i'r tywyllwch gael y llaw uchaf arnoch chi. Dydy'r rhai sy'n cerdded yn y tywyllwch ddim yn gwybod ble maen nhw'n mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrthynt, "Am ychydig amser eto y bydd y goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra bo'r goleuni gennych, rhag i'r tywyllwch eich goddiweddyd. Nid yw'r sawl sy'n rhodio yn y tywyllwch yn gwybod lle y mae'n mynd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedodd gan hyny yr Iesu wrthynt, Eto ychydig enyd y mae y Goleuni yn eich plith. Rhodiwch yn ol fel y mae y Goleuni genych, fel na oddiweddo tywyllwch chwi: a'r hwn sydd yn rhodio yn y Tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae yn myned.