John 12:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Tra vo’r goleuni y chwy, credwch yn y goleuni, val y boch yn blant i’r goleuni. Y pethe hyn a adroddodd yr Iesu. ac aeth ymaith, ac a ymguddiodd y wrthwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tra y mae’r goleuni genych, credwch yn y goleuni, fel y byddoch feibion y goleuni. Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac wedi myned ymaith ymguddiodd rhagddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Tra fo’r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, er mwyn i chwi ddyfod yn feibion goleuni.” Hyn a ddywedodd Iesu, ac wedi myned ymaith, diflannodd o’u canol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Credwch yn y golau tra mae gyda chi, er mwyn i chi ddod yn bobl sy'n olau.” Ar ôl iddo ddweud hyn, dyma Iesu'n mynd ac yn cadw o'u golwg nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra bo'r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, ac felly plant y goleuni fyddwch." Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, aeth Iesu i ffwrdd ac ymguddio rhagddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Fel y mae genych y Goleuni, credwch yn y Goleuni, fel y deuwch yn Feibion goleuni. Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac a aeth ymaith, ac a guddiwyd oddi wrthynt.