John 12:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mal y cyflawnit ymadrodd Esaias y Prophwyt, yr hwn a ddyvot ef, Arglwydd pwy a gredawdd y ’n ymadrodd ni? ac y bwy ’n datguddiwyt braich yr Arglwydd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y byddai i ymadrodd Eshaiah y prophwyd ei gyflawni, yr hwn a ddywedodd efe, “Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd? A braich Iehofah, i bwy y dadguddiwyd hi?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y cyflawnid gair y proffwyd Eseia, a ddywedodd: Arglwydd, pwy a gredodd i’r hyn a glybuwyd gennym? a braich yr Arglwydd, i bwy y datguddiwyd hi?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'n union a ddwedodd y proffwyd Eseia fyddai'n digwydd: “Arglwydd, oes rhywun wedi credu ein neges? Oes rhywun wedi gweld mor rymus ydy'r Arglwydd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyflawnwyd felly y gair a ddywedodd y proffwyd Eseia: "Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym? I bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y cyflawnid ymadrodd Esaiah y Proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, — Arglwydd, pwy a gredodd i'n cenadwri? Ac i bwy y dadguddiwyd Braich yr Arglwydd?.