John 12:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y pethae hyn a ddyvot Esaias pan welawdd y ’ogoniant ef, ac yr ymadroddawdd am danaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y pethau hyn a ddywedodd Eshaiah, am weled o hono Ei ogoniant; a llefarodd am Dano Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hyn a ddywedodd Eseia am iddo weled ei ogoniant ef, a soniodd amdano.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Dwedodd Eseia y pethau yma am ei fod wedi gweld ysblander dwyfol Iesu. Am Iesu roedd e'n siarad.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Eseia hyn am iddo weld ei ogoniant; amdano ef yr oedd yn llefaru.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y pethau hyn a ddywedodd Esaiah, oblegyd iddo weled ei Ogoniant ef, ac a lefarodd am dano ef.