John 12:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny ac o’r pennadurieit llawer a gredesont yndaw: eithyr o bleit y Pharisaieit, ny ’s cyffessesont vvy ef, rac eu rhoi allan o’r Synagog.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Er hyny i gyd, hyd yn oed o’r pennaethiaid llawer a gredasant Ynddo; ond oblegid y Pharisheaid ni chyffesasant, rhag eu rhoi allan o’r sunagog,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn wir, ar waethaf popeth, credodd llawer hyd yn oed o’r penaethiaid ynddo, ond oherwydd y Phariseaid, ni chyfaddefent rhag eu torri allan o’r synagog,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er hynny llawer o'r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o'r synagog:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac eto roedd nifer o arweinwyr crefyddol, hyd yn oed, wedi dod i gredu ynddo. Ond doedden nhw ddim yn barod i gyfadde'n agored eu bod nhw'n credu am eu bod yn ofni'r Phariseaid, a ddim am gael eu diarddel o'r synagog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eto i gyd fe gredodd llawer hyd yn oed o'r llywodraethwyr ynddo ef; ond o achos y Phariseaid ni fynnent ei arddel, rhag iddynt gael eu torri allan o'r synagog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Er hyny, llawer hyd y nôd o'r penaethiaid a gredasant ynddo; ond o herwydd y Phariseaid, nid oeddynt yn gwneyd cyffes, rhag y byddent yn esgymunedig o'r Synagog: