John 12:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a lefawdd, ac a ddyvot, a gred yno vi, ny chred yno vi, eithyr yn hwn am d anvonawdd i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a lefodd, ac a ddywedodd, Yr hwn sy’n credu Ynof, nid credu Ynof Fi y mae, eithr yn yr Hwn a’m danfonodd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwaeddodd yr Iesu a dywedodd: “Y neb sy’n credu ynof i, nid ynof i y mae’n credu ond yn yr hwn a’m hanfonodd i;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a'm hanfonodd i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Iesu'n cyhoeddi'n uchel, “Mae'r rhai sy'n credu ynof fi yn credu yn Nuw hefyd, yn yr un sydd wedi fy anfon i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyhoeddodd Iesu: "Y mae'r sawl sy'n credu ynof fi yn credu nid ynof fi ond yn yr un a'm hanfonodd i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a lefodd, ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr Hwn a'm hanfonodd i.