John 12:46 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi a ðeuthym yn ’oleuni i’r byt, val y bo y bwy bynac a gred yn o vi, nad aro s o yn y tywyl’wc h.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Myfi, yn oleuni y daethum i’r byd hwn, fel pob un y sy’n credu Ynof, yn y tywyllwch nad arhoso.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn oleuni yr wyf i wedi dyfod i’r byd, fel nad arhoso neb sy’n credu ynof i yn y tywyllwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a ddeuthum yn oleuni i'r byd, fel y bo i bob un a'r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi dod fel golau i'r byd, fel bod dim rhaid i'r bobl sy'n credu ynof fi aros yn y tywyllwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi wedi dod i'r byd yn oleuni, ac felly nid yw neb sy'n credu ynof fi yn aros yn y tywyllwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Myfi wyf wedi dyfod yn Oleuni y byd, fel nad aroso neb sydd yn credu ynof fi yn y tywyllwch.