John 12:47 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s clyw neb vy‐geiriae, ac ny chred, mi ny ’s barna ef: can na ddaethym’ i varnu ’r byt, eithyr y iachau ’r byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os neb a glywo Fy ngeiriau I, ac na’u cadwo, Myfi ni farnaf ef, canys ni ddaethum fel y barnwn y byd, eithr fel yr achubwn y byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os clyw neb fy ngeiriau i ac nis ceidw hwynt, nid wyf i’n ei farnu, canys ni ddeuthum i farnu’r byd ond i achub y byd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu'r byd, eithr i achub y byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond am y rhai sydd wedi clywed beth dw i'n ei ddweud a gwrthod ufuddhau — dim fi sy'n eu condemnio nhw. Dod i achub y byd wnes i, dim dod i gondemnio'r byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw rhywun yn clywed fy ngeiriau i ac yn gwrthod eu cadw, nid myfi sy'n ei farnu, oherwydd ni ddeuthum i farnu'r byd ond i achub y byd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os clyw neb fy ymadroddion, ac nis ceidw hwynt, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddaethum i farnu y byd, ond i achub y byd.