John 12:48 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’m gwrthoto i, ac ny d erbynio vy‐geiriae, y mae iddo vn a ei barn: y gair y adroddeis i, hwnw y barn ef yn y dydd dyweðaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sydd yn Fy nirmygu, ac heb dderbyn Fy ymadroddion, sydd ag iddo yr hwn a’i barn: y gair yr hwn a leferais, efe a’i barn ef yn y dydd diweddaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn sy’n fy nibrisio i a heb dderbyn fy ngeiriau i, y mae ganddo un sydd yn ei farnu. Y gair a ddywedais, hwnnw a’i barn yn y dydd diwethaf;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a'i barn ef yn y dydd diwethaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bydd pawb sy'n fy ngwrthod i ac yn gwrthod derbyn beth dw i'n ei ddweud yn cael eu barnu — bydd beth ddwedais i yn eu condemnio nhw ar y dydd olaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gan y sawl sy'n fy ngwrthod i, ac yn peidio derbyn fy ngeiriau, un sydd yn ei farnu. Bydd y gair hwnnw a leferais i yn ei farnu yn y dydd olaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn fy niystyru i, ac heb dderbyn fy ymadroddion, y mae iddo un sydd yn ei farnu: Y Gair yr hwn a leferais, hwnw a'i barna ef yn y Dydd Diweddaf.