John 12:49 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys mi nyd ym adroddeis o hanaf vy h un: eithyr y Tat yr hwn am d anvonawdd i, efe a roes i mi ’orchymyn pa beth ddywedwn, a’ pha beth a ym adroddwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys Myfi, nid o Honof Fy hun y lleferais, ond y Tad, yr Hwn a’m danfonodd, Efe a roddes i Mi orchymyn pa beth a ddywedwn a pha beth a lefarwn:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
am nad ohonof fy hun y lleferais, ond yr hwn a’m hanfonodd i, y tad, hwnnw a roes siars arnaf beth a ddywedwyf a beth a lefarwyf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a'm hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ddim wedi siarad ar fy liwt fy hun. Y Tad sydd wedi fy anfon i sydd wedi dweud wrtho i beth i'w ddweud, a sut i'w ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid ohonof fy hunan y lleferais, ond y Tad ei hun, hwnnw a'm hanfonodd i, sydd wedi rhoi gorchymyn i mi beth a ddywedaf a beth a lefaraf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys myfi ni leferais allan o honof fy hun: ond y Tâd yr hwn a'm hanfonodd i, y mae efe wedi rhoddi gorchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn.