John 12:50 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi wn vot y ’orchymyn ef yn vywyt tragyvythol: y pethe gan hyny ’r wy vi yn ei ym adrodd, a ym adroddaf me g is ac y dyweddawdd y Tat y‐my.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac Ei orchymyn, gwn mai bywyd tragywyddol yw; y pethau, gan hyny, yr wyf Fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad Wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwn fod ei siars ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn felly a lefaraf yn awr, fel y dywedodd y tad wrthyf, felly y llefaraf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dw i'n gwybod fod beth mae e'n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Felly dw i'n dweud yn union beth mae'r Tad yn ei ddweud wrtho i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gwn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn yr wyf fi'n ei lefaru, felly, rwy'n ei lefaru yn union fel y mae'r Tad wedi dweud wrthyf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragywyddol: gan hyny y pethau yr wyf yn eu llefaru, fel y mae y Tâd yn dywedyd wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.