John 12:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ef a ddywedei hyn y, ny d o h erwydd y govalei ef am y tlodion, any d am y vot ef yn lleidr, a’ bot yr amner ganthaw, ac yn dwyn hyn a roddit yndo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd hyn, nid am mai am y tlodion y maliai, eithr am mai lleidr ydoedd; ac, a’r cwd ganddo, y pethau a fwrid i mewn a gludai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd hyn, nid am ei fod yn malio am y tlodion, ond am mai lleidr oedd, a chanddo’r blwch ac yn dwyn yr hyn a fwrrid iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr hyn a ddywedodd efe, nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo'r pwrs, a'i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Ond doedd e ddim wir yn poeni am y tlodion. Beth oedd tu ôl i'w eiriau oedd y ffaith ei fod yn lleidr. Roedd Iesu a'i ddisgyblion yn rhannu un pwrs, a Jwdas oedd yn gyfrifol amdano, ond byddai'n arfer helpu ei hun i'r arian.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fe ddywedodd hyn, nid am fod gofal ganddo am y tlodion, ond am mai lleidr ydoedd, yn cymryd o'r cyfraniadau yn y god arian oedd yn ei ofal.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe a ddywedodd hyn nid am ei fod yn gofalu ynghylch y tlodion, ond am ei fod yn lleidr; a chanddo y gôd, efe a arferai ddwyn ymaith yr hyn a fwrid ynddi.