John 12:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Iesu, Gedwch ydd h i: erbyn dydd vy‐claddedigeth eu cadwodd hi hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd, gan hyny, a wnaeth yr Iesu, Gad iddi; bu fel erbyn dydd Fy nghladdedigaeth y cadwai ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yr Iesu felly: “Gad iddi hi gadw hyn ar gyfer dydd fy nghladdu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd, Gad iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gad lonydd iddi,” meddai Iesu. “Mae hi wedi cadw beth sydd ganddi ar gyfer y diwrnod pan fydda i'n cael fy nghladdu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gad lonydd iddi," meddai Iesu, "er mwyn iddi gadw'r ddefod ar gyfer dydd fy nghladdedigaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedodd yr Iesu gan hyny, Goddef iddi, fel y cadwo hi ef erbyn dydd y parotöad i'm claddedigaeth.