John 12:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly tyrfa liosawc o’r Iuddaeon a wybu y vot ef yno: ac vvy ddaethant nyd er mvvyn yr Iesu yn vnic, eithr er mvvyn gwelet Lazar us hefyt, yr vn a godesei ef o vairw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwybu, gan hyny, dyrfa fawr o’r Iwddewon, mai yno yr oedd Efe; a daethant, nid o achos yr Iesu yn unig, eithr fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a gododd Efe o feirw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly gwybu tyrfa fawr o’r Iddewon ei fod yno, a daethant, nid o achos yr Iesu yn unig, ond i weled Lasarus hefyd, a gyfodasai ef o feirw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwybu gan hynny dyrfa fawr o'r Iddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lasarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd tyrfa fawr o bobl Jwdea wedi darganfod fod Iesu yn Bethania. Dyma nhw'n mynd yno, ddim yn unig i weld Iesu, ond hefyd i weld Lasarus yr un ddaeth Iesu ag e yn ôl yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth tyrfa fawr o'r Iddewon i wybod ei fod yno, a daethant ato, nid o achos Iesu yn unig, ond er mwyn gweld Lasarus hefyd, y dyn yr oedd ef wedi ei godi oddi wrth y meirw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwybu gan hyny y bobl gyffredin o blith yr Iuddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a gyfododd efe o feirw.