John 13:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YNo cyn no gwyl y Pasc, a’r Iesu yn gwybot ddyvot y awr ef, y ymadw o’r byt hwn at y Tat, can iddo garu yr eiddaw yr ei oeddent yn y byt, yd y dywedd y caroð ef hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chyn gwyl y Pasg, gan wybod o’r Iesu y daethai Ei awr i fyned trosodd o’r byd hwn at y Tad, wedi caru yr Eiddo y rhai oedd yn y byd, hyd y diwedd y carodd hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyn gŵyl y Pasg, gwyddai’r Iesu fod ei adeg ef wedi dyfod i ymadael â’r byd hwn at ei dad; yr oedd wedi caru ei bobl ei hun yn y byd, a charodd hwy hyd y diwedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Achyn gŵyl y pasg, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei awr ef i ymadael â'r byd hwn at y Tad, efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a'u carodd hwynt hyd y diwedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Erbyn hyn roedd hi bron yn amser dathlu Gŵyl y Pasg. Roedd Iesu'n gwybod fod yr amser wedi dod iddo adael y byd a mynd at y Tad. Roedd wedi caru y rhai oedd yn perthyn iddo, ac yn awr dangosodd iddyn nhw mor fawr oedd ei gariad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar drothwy gu373?yl y Pasg, yr oedd Iesu'n gwybod fod ei awr wedi dod, iddo ymadael 'r byd hwn a mynd at y Tad. Yr oedd wedi caru'r rhai oedd yn eiddo iddo yn y byd, ac fe'u carodd hyd yr eithaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chyn Gŵyl y Pasc, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei Awr ef fel y symudai allan o'r byd hwn at y Tâd, wedi caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a'u carodd hwynt i'r eithaf: ac ar adeg swper,