John 13:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly gwedy iddo olchy eu traet, a’ chymeryt ei ddillat, ac eistedd o honavv y lawr drachefyn, y dyvot wrthynt, A wyddoch pa beth a wneuthym ’y‐chwy?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Am hyny pan olchasai eu traed, a chymmeryd ei ddillad, a lled-orwedd trachefn, dywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wnaethum i chwi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna ar ôl golchi eu traed a chymryd ei ddillad a myned at y bwrdd drachefn, dywedodd wrthynt: “A wyddoch chwi beth a wneuthum i chwi?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymryd ei gochlwisg, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl iddo orffen golchi eu traed nhw, gwisgodd ei fantell eto a mynd yn ôl i'w le. “Ydych chi'n deall beth dw i wedi ei wneud i chi?” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo olchi eu traed, ac ymwisgo a chymryd ei le unwaith eto, gofynnodd iddynt, "A ydych yn deall beth yr wyf wedi ei wneud i chwi?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymmeryd ei ar‐wisgoedd, ac eistedd drachefn wrth y bwrdd, efe a ddywedodd wrthynt, A ydych yn gwybod pa beth yr wyf wedi ei wneuthur i chwi?