John 13:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd wyf yn dywedyt am danoch bawp, mi vi awn pw’r ei a dd etholeis i: eithyr bot hyn er cyflawny ’r Scri p t h ur ’lan, ’sef Hwn ’sy yn bwyta bara gyd a mi, a godes eu sawdl yn v’ erbyn i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid am bawb o honoch yr wyf yn dywedyd: Myfi a wn pwy a etholais; eithr fel y bo i’r Ysgrythyr ei chyflawni, “Yr hwn sy’n bwytta fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid am bawb ohonoch yr wyf yn dywedyd, — mi wn i pwy a ddewisais, — ond er mwyn cyflawni’r ysgrythur: Yr hwn sy’n bwyta fy mara a gyfododd ei sawdl i’m herbyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid wyf fi yn dywedyd amdanoch oll; mi a wn pwy a etholais: ond fel y cyflawnid yr ysgrythur, Yr hwn sydd yn bwyta bara gyda mi, a gododd ei sawdl yn fy erbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i ddim yn dweud hyn amdanoch chi i gyd. Dw i'n nabod y rhai dw i wedi eu dewis yn dda. Ond mae'n rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ddweud ddod yn wir: ‘Mae'r un fu'n bwyta gyda mi wedi troi yn fy erbyn i.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid wyf yn siarad amdanoch i gyd. Yr wyf fi'n gwybod pwy a ddewisais. Ond y mae'n rhaid i'r Ysgrythur gael ei chyflawni: 'Y mae'r un sy'n bwyta fy mara i wedi codi ei sawdl yn f'erbyn.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid wyf yn llefaru am danoch oll: mi a wn pwy rai a etholais: a hyn a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, — Yr hwn sydd yn bwyta fy mara A gododd ei sawdl yn fy erbyn i.