John 13:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn wir, yn wir y dywedaf y‐chwi, A’s anvonafi neb un, hwn y d erbyn ef, a’m d erbyn i, a’ hwn a’m d erbyn i, a dd erbyn yr vn am d anvonawdd i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, yr hwn sy’n derbyn pwy bynnag a ddanfonwyf, Myfi a dderbyn efe; a’r hwn sy’n derbyn Myfi, sy’n derbyn yr Hwn a’m danfonodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae’r neb sy’n derbyn unrhyw un a anfonwyf yn fy nerbyn i, a’r hwn sy’n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a'r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Credwch chi fi, mae rhywun sy'n rhoi croeso i negesydd sydd wedi ei anfon gen i, yn rhoi croeso i mi. Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Tad sydd wedi fy anfon i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae'r sawl sy'n derbyn unrhyw un a anfonaf fi yn fy nerbyn i, ac y mae'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn neb a ddanfonwyf, sydd yn fy nerbyn i; a'r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.