John 13:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwedy dywedyt o’r Iesu y pethe hynn, ef gynnyrfit yn yr Yspryt, ac a testolaethawdd, ac a ddyvot, Yn wir yn wir y dywedaf y chwy, mai vn o hanoch am bradycha i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan y pethau hyn a ddywedasai Efe, yr Iesu a gynhyrfwyd yn Ei yspryd, a thystiolaethodd, a dywedodd, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Un o honoch a’m traddoda.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi dywedyd hyn, cynhyrfwyd yr Iesu yn ei ysbryd, a thystiodd a dywedodd: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae un ohonoch am fy mradychu i.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y bradycha un ohonoch fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl dweud hyn, roedd Iesu'n amlwg wedi cynhyrfu trwyddo. A dwedodd yn gwbl glir, “Credwch chi fi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo ddweud hyn, cynhyrfwyd ysbryd Iesu a thystiodd fel hyn: "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod un ohonoch yn mynd i'm bradychu i."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu yn dywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr yspryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Un o honoch a'm bradycha i.