John 13:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ’r discipulon a edrychesont ar y gylydd, gan betrusaw am ba vn y dywedesei ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Edrych at eu gilydd a wnaeth y disgyblion mewn dyryswch am bwy y dywedai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyma’r disgyblion yn edrych ar ei gilydd, yn methu deall am bwy y soniai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Syllodd y disgyblion ar ei gilydd, heb syniad yn y byd am bwy oedd e'n sôn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechreuodd y disgyblion edrych ar ei gilydd, yn methu dyfalu am bwy yr oedd yn sn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oedd y Dysgyblion yn edrych ar eu gilydd, gan fod mewn dyryswch am bwy y mae yn llefaru.