John 13:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yð oeð vn o ei ddiscipulon yr hwn a ogwyddei ar vonwes yr Iesu, yr hwn a garei ’r Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A lled-orwedd yr oedd un o’i ddisgyblion ym mynwes yr Iesu, yr hwn oedd hoff gan yr Iesu:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd wrth y bwrdd un o’i ddisgyblion â’i bwys ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu’n ei garu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd un o'i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y disgybl oedd Iesu'n ei garu'n fawr yn eistedd agosaf at Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd un o'i ddisgyblion, yr un yr oedd Iesu'n ei garu, yn nesaf ato ef wrth y bwrdd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oedd yn lledorwedd wrth y bwrdd yn mynwes yr Iesu un o'i Ddysgyblion, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu.