John 13:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar hwn gan hyny yr amneidiawdd Simon Petr, i ymofyn o hanaw pwy ’n oedd yr hwn y dywedesei ef am danaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ar hwnw, gan hyny, yr amneidiodd Shimon Petr, a dywedodd wrtho, Dywaid i ni pwy yw yr hwn am yr hwn y dywaid Efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly y mae Simon Pedr yn amneidio ar hwnnw ac yn dywedyd wrtho: “Dywed am bwy y mae’n sôn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Simon Pedr yn gwneud arwydd i hwnnw ofyn i Iesu pwy oedd yn ei olygu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma Simon Pedr yn rhoi arwydd i hwn i holi Iesu am bwy yr oedd yn sn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae Simon Petr gan hyny yn amneidio ar hwnw, ac yn dywedyd wrtho, Dywed pwy yw efe am yr hwn y mae yn llefaru.