John 13:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu atepawdd, Hwnw yw ef, yr vn y y rhoddwy vi iddo dam eit wedy ’r i mi ei enllynu: ac ef a enllynawdd dam eit, ac eu rhoes i Iudas Iscariot, ’ap Simon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Atteb, gan hyny, a wnaeth yr Iesu, Hwnw yw efe i’r hwn y bydd i Mi, wedi trochi o Honof y tammaid, ei roddi iddo. Wedi trochi’r tammaid, gan hyny, cymmerodd a rhoddodd ef i Iwdas, mab Shimon Ishcariot.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae’r Iesu’n ateb: “Hwnnw ydyw y byddaf i yn mwydo’r tamaid ac yn ei roddi iddo.” Felly cymer y tamaid, ar ôl ei fwydo, a dyry ef i Iwdas fab Simon o Gerioth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i'r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu'r tamaid, efe a'i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Yr un wna i roi darn o fara iddo wedi ei drochi'n y ddysgl saws.” Yna rhoddodd ddarn o fara yn y saws, a'i basio i Jwdas, mab Simon Iscariot.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu, "Yr un y gwlychaf y tamaid yma o fara a'i roi iddo, hwnnw yw ef." Yna gwlychodd y tamaid a'i roi i Jwdas fab Simon Iscariot.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny a etyb, Hwnw yw efe, i'r hwn y gwlychaf y tamaid, ac y rhoddaf ef iddo. Gan hyny wedi gwlychu y tamaid, y mae efe yn ei gymmeryd ac yn ei roddi i Judas, mab Simon Iscariot.