John 13:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy ’r tam eit, yr aeth Satan ymevvn ynthaw. Yno y dyuot yr Iesu wrthaw, A wnelych, gwna yn ebrwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar ol y tammaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Dywedyd wrtho gan hyny a wnaeth yr Iesu, Yr hyn yr wyt yn ei wneud, gwna ar frys.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar ôl y tamaid, yna aeth Satan i mewn iddo. Medd yr Iesu felly wrtho: “Y gwaith sydd gennyt, gwna ar frys.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr eiliad y cymerodd Jwdas y bara, dyma Satan yn mynd i mewn iddo. “Dos ar unwaith,” meddai Iesu wrtho, “Gwna beth rwyt ti'n mynd i'w wneud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn dilyn ar hyn, aeth Satan i mewn i hwnnw. Meddai Iesu wrtho, "Yr hyn yr wyt yn ei wneud, brysia i'w gyflawni."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar ol y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo ef. Dywed gan hyny yr Iesu wrtho, Yr hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna yn fwy brysiog.