John 13:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cā ys rei a dybient am vot yr amner gan Iudas, y dywed e sei ’r Iesu wrthaw, Pryn y pethe ’sy arnom eisieu erbyn yr wyl: neu yddo roi peth ir tlodion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys rhai a dybient gan fod y cwd gan Iwdas, mai dywedyd wrtho yr oedd yr Iesu, Pryn y pethau y mae rhaid i ni wrthynt i’r wyl, neu I’r tlodion y rhoddai ryw beth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys tybiai rhai, gan mai gan Iwdas yr oedd y blwch, fod Iesu yn dywedyd wrtho: “Pryn yr hyn y mae arnom ei eisiau at yr ŵyl,” neu am iddo roi rhywbeth i’r tlodion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys rhai oedd yn tybied, am fod Jwdas a'r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Prŷn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl; neu, ar roi ohono beth i'r tlodion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gan mai Jwdas oedd yn gofalu am y pwrs arian, roedd rhai yn tybio fod Iesu'n dweud wrtho am fynd i brynu beth oedd ei angen ar gyfer dathlu'r Ŵyl, neu i fynd i roi rhodd i bobl dlawd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan mai yng ngofal Jwdas yr oedd y god arian, tybiodd rhai fod Iesu wedi dweud wrtho, "Pryn y pethau y mae arnom eu heisiau at yr u373?yl", neu am roi rhodd i'r tlodion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys yr oedd rhai yn tybied, am fod Judas a'r göd ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Pryn y pethau sydd arnom eu heisieu erbyn yr Wyl; neu, fel y rhoddai rywbeth i'r tlodion.