John 13:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr Iesu yn gwybot roddy o’r Tat yddaw bop beth oll yn y ddwylo, ay vot ef wedy dyvot ywrth Dduw ac yn myned at Dduw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan wybod o’r Iesu fod pob peth wedi ei roddi Iddo, i’w ddwylaw, gan y Tad, ac mai o Dduw y daethai allan,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ei fod yn gwybod bod y tad wedi rhoddi popeth yn ei ddwylo, a’i fod wedi dyfod oddiwrth Dduw ac yn myned at Dduw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu yn gwybod roddi o'r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef, a'i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw, ac yn myned at Dduw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwyddai Iesu fod y Tad wedi rhoi popeth yn ei ddwylo e. Roedd wedi dod oddi wrth Dduw, ac roedd yn mynd yn ôl at Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dyma Iesu, ac yntau'n gwybod bod y Tad wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo ef, a'i fod wedi dod oddi wrth Dduw a'i fod yn mynd at Dduw,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
efe, yn gwybod roddi o'r Tâd bob peth yn ei ddwylaw ef, a dyfod o hono allan oddi wrth Dduw, a'i fod yn myned ymaith at Dduw,