John 13:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ha blantynot, eto enhyt bach ydd wyf gyd a chwi: chvvi am caisiwch, ac mal y dywedais wrth yr Iuddaeon, I b’le ydd a vi, chwy chvvi ny aill ddyvot: hefyt i chwi y dywedaf yr awrhon?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O blant bychain, ychydig etto gyda chwi yr wyf. Ceisiwch Fi; ac fel y dywedais wrth yr Iwddewon, Lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod, wrthych chwi hefyd yr wyf yn dywedyd yr awr hon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Blant bach, ychydig eto y byddaf gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch, ac fel y dywedais wrth yr Iddewon, ‘y lle yr wyf i yn myned, ni ellwch chwi ddyfod,’ yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych chwithau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a'm ceisiwch: ac, megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Fy mhlant annwyl i, fydda i ddim ond gyda chi am ychydig mwy. Byddwch yn edrych amdana i, ond yn union fel dwedais i wrth yr arweinwyr Iddewig, allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fy mhlant, am ychydig amser eto y byddaf gyda chwi; fe chwiliwch amdanaf, a'r hyn a ddywedais wrth yr Iddewon, yr wyf yn awr yn ei ddweud wrthych chwi hefyd, 'Ni allwch chwi ddod lle'r wyf fi'n mynd.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Blant bychain, eto yr wyf enyd fechan gyd â chwi. Chwi a'm ceisiwch: ac megys y dywedais wrth yr Iuddewon, Lle yr wyf fi yn myned ymaith, nis gellwch chwi ddyfod, yr wyf yn dywedyd i chwithau hefyd yr awrhon.