John 13:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Simon Petr a ðyvot wrthaw, Arglwydd, I b’le ydd ai di? Yr Iesu ei atepawdd, I b’le ydd a vi, ny elly di vy‐canlyn yr owrhon: eithyr canlyny vi gwedy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd Wrtho a wnaeth Shimon Petr, Arglwydd, i ba le yr wyt yn cilio? Attebodd yr Iesu, Lle yr wyf yn cilio iddo, ni elli yr awr hon Fy nghanlyn; ond canlyni ar ol hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Simon Pedr wrtho: “Arglwydd, i ba le yr wyt ti’n myned?” Atebodd Iesu: “Y lle yr wyf i’n myned ni elli di fy nilyn yn awr, ond dilyni fi maes o law.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti'n myned? Yr Iesu a atebodd iddo, Lle yr ydwyf fi yn myned, ni elli di yr awron fy nghanlyn: eithr ar ôl hyn y'm canlyni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ble rwyt ti'n mynd, Arglwydd?” gofynnodd Simon Pedr iddo. Atebodd Iesu, “Ar hyn o bryd allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd. Ond byddwch yn dod yno yn nes ymlaen.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Simon Pedr wrtho, "Arglwydd, i ble'r wyt ti'n mynd?" Atebodd Iesu ef, "Lle'r wyf fi'n mynd, ni elli di ar hyn o bryd fy nghanlyn, ond fe fyddi'n fy nghanlyn maes o law."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed Simon Petr wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt yn myned ymaith? Iesu a atebodd, Lle yr ydwyf fi yn myned ymaith, ni elli di yn awr fy nghanlyn; eithr ti a ganlyni ar ol hyn.