John 13:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Petr a ddyvot wrthaw, Arglwydd, paam na allaf dy ganlyn yr owrhon? vy einioes a ddodaf ymaith drosot’.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd Wrtho a wnaeth Petr, Arglwydd, paham na allaf Dy ganlyn Di yr awrhon? Fy einioes, trosot Ti, a ddodaf i lawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Pedr wrtho: “Paham na allaf i dy ddilyn di yn awr? Mi a roddaf fy mywyd trosot.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, paham na allaf fi dy ganlyn yr awron? mi a roddaf fy einioes drosot.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pam alla i ddim dod rwan?” meddai Pedr, “dw i'n fodlon marw drosot ti!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Arglwydd," gofynnodd Pedr iddo, "pam na allaf dy ganlyn yn awr? Fe roddaf fy einioes drosot."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Petr a ddywed wrtho, Arglwydd, Paham nad allaf fi dy ganlyn di yr awrhon? mi a roddaf fy einioes drosof.