John 13:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu ei atepawdd, A ddodi ymaith dy einioes droso vi? Yn wir yn wir y dywedaf y ti, Ny chan y ceilioc, nes yti vy‐gwadu deir‐gwaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd yr Iesu, Dy einioes, trosof Fi, a ddodi i lawr! Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Ni fydd i geiliog ganu nes y gwedi Fi dair gwaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae Iesu’n ateb: “Tydi am roddi dy fywyd trosof? Ar fy ngwir, meddaf i ti, ni chân y ceiliog cyn iti fy ngwadu deirgwaith.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Wnei di wir farw drosof fi? Cred di fi, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu, "A roddi dy einioes drosof? Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, ni chn y ceiliog cyn iti fy ngwadu i dair gwaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae Iesu yn ateb, Dy einioes a roddi drosof? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, ni chân ceiliog ddim, nes i ti fy ngwadu dair gwaith.